Rob Howley
Bydd Rob Howley heddiw yn cyhoeddi tîm rygbi Cymru i chwarae yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

Mae’n bosib y bydd Howley yn rhoi’r gapteniaeth i Sam Warburton unwaith eto, wedi i Ryan Jones fethu a gwella o anaf i’w ysgwydd, ond mae sawl cyn-chwaraewr wedi galw am wneud Alun Wyn Jones yn gapten ar gyfer y gêm.

Mae disgwyl i Justin Tipuric neu Andrew Coombs ddychwelyd i’r tîm yn lle Ryan Jones, a gall Gethin Jenkins gymryd lle Paul James, wedi anaf i’r prop.

Ymysg yr olwyr, mae’n debyg bydd Howley yn dewis yr un chwaraewyr am y bumed gêm yn y bencampwriaeth.  Gall Mike Phillips ennill ei 77fed gap dros Gymru, y mwyaf i unrhyw fewnwr erioed mewn crys coch.

Cymru v Lloegr

Bydd Cymru yn croesawu Lloegr i Gaerdydd ar gyfer y gêm fawr ddydd Sadwrn, i benderfynu pwy fydd pencampwyr y gystadleuaeth eleni.

Bydd buddugoliaeth gan y Saeson yn sicrhau camp lawn i ddynion Stuart Lancaster.  Ond os yw Cymru yn ennill o 7 bwynt neu fwy, gallen nhw gipio’r teitl a fyddai wedi teimlo yn amhosib yn dilyn y gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon.

Bydd Howley yn enwi ei dîm am 1pm.