Chris Huhne
Mae’r Aelod Seneddol Chris Huhne a’i gyn-wraig Vicky Pryce wedi cael eu carcharu am wyth mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn Llys y Goron Southwark heddiw, penderfynodd y barnwr, Mr Ustus Sweeney bod y ddau wedi gweithio hefo’i gilydd i wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac yn haeddu dedfryd o garchar am wneud hynny.


Vicky Pryce
Cafwyd Pryce, 60, yn euog wythnos ddiwethaf o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gymryd pwyntiau Huhne, 58, am oryrru yn 2003. Roedd hi wedi honni bod ei gwr wedi ei gorfodi i wneud hynny.

Wrth eu dedfrydu dywedodd y barnwr bod Huhne wedi dweud celwydd “dro ar ol tro”, ac mai cymhelliad Pryce oedd dial ar ei chyn-wr a’i bod wedi ceisio dylanwadu ar y wasg.

Roedd Huhne, sy’n gyn weinidog yn y Cabinet, wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad ar ddechrau’r achos ym mis Chwefror.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg bod y ddedfryd yn “drasiedi bersonol” i Huhne a Pryce.

Y cefndir

Roedd Vicky Pryce, un o brif economegwyr Llywodraeth Prydain, yn honni bod Chris Huhne yn ddyn uchelgeisiol sy’n fodlon gwneud unrhyw beth i lwyddo.

Yn ystod yr achos, ceisiodd ddefnyddio amddiffyniad sydd ar gael i fenywod yn unig, sef bod ei gŵr wedi ei gorfodi i lofnodi’r papur i ddweud mai hi oedd yn gyrru’r car ar y pryd, fel na fyddai ef yn colli ei drwydded.

Roedd Pryce wedi honni bod Huhne wedi sefyll yng nghyntedd eu cartref yn chwifio beiro yn ei hwyneb mewn ymgais i’w gorfodi i lofnodi’r papur.

Daeth priodas y ddau i ben yn 2010 pan adawodd Huhne ei wraig ar ôl dechrau perthynas gyda’i ymgynghorydd PR Carina Trimmingham.

Yn 2011, aeth Pryce at y wasg gyda’r stori, gyda’r bwriad o “hoelio” Huhne, yn ol yr erlyniad.