Fe allai llawdriniaethau arferol ladd pobl ymhen 20 mlynedd os ydan ni’n colli’r gallu i wrthsefyll heintiau oherwydd gwrthfiotigau, mae Prif Swyddog Meddygol y Llywodraeth wedi rhybuddio.

Mae’r broblem yn “fom sy’n tician” ac fe ddylai gael ei hystyried fel un o’r bygythiadau mwyaf i’r genedl yn ôl yr Athro Sally Davies.

Mae’r Fonesig Sally wedi annog y Llywodraeth i godi’r mater pan fydd arweinwyr gwleidyddol yr G8 yn cwrdd ar gyfer uwchgynhadledd yn Llundain fis nesaf.

Yn ei hadroddiad, mae’r Fonesig yn galw am weithredu er mwyn mynd i’r afael a’r “bygythiad catastroffig” sydd, meddai, yr un mor bwysig â’r bygythiad gan derfysgaeth a newid hinsawdd.

Dywedodd: “Os nad ydan ni’n gweithredu rŵan, fe allai unrhyw un ohonom ni fynd i’r ysbyty ymhen 20 mlynedd am lawdriniaeth fechan a marw o ganlyniad i haint gyffredin na ellir ei drin gyda gwrthfiotigau.”

Ychwanegodd bod angen annog cwmnïau fferyllol i ddatblygu rhagor o wrthfiotigau “gan nad oes datblygiad wedi bod yn y maes ers 20 mlynedd, gan olygu bod afiechydon yn newid yn gyflymach na’r cyffuriau sydd ar gael i’w trin.”

“Nid oes unrhyw wrthfiotigau newydd ar y gweill ar draws y byd ac ychydig iawn sy’n cael eu datblygu,” meddai.

Dywed yr Adran Iechyd y bydd yn cyhoeddi ei Strategaeth Gwrthsefyll Gwrthficrobaidd yn fuan, gan amlinellu cynlluniau pum mlynedd i fynd i’r afael a’r mater.