David Cameron
Mae David Cameron wedi mynnu heddiw y bydd yn cadw at ei gynlluniau ar gyfer yr economi er gwaetha awgrymiadau gan yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable ei fod yn bryd iddo ail-feddwl.

Mewn erthygl yn y New Statesman mae’r Democrat Rhyddfrydol yn dweud y dylai’r Llywodraeth fenthyg mwy, gan fod cyfraddau llog mor isel, er mwyn ariannu rhagor o wariant ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau, prosiectau llai ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd, ac adeiladu tai.

Ond mewn araith cyn y Gyllideb, dywedodd David Cameron nad oedd modd i’r Llywodraeth fenthyg a gwario mwy, ac y byddai newid trywydd ar yr economi yn gam yn ol.

Ychwanegodd bod colli statws credyd AAA y DU fis diwethaf wedi tanlinellu’r angen i fynd i’r afael a dyledion y wlad.

Roedd y Prif Weinidog hefyd yn dadlau bod eu “cynlluniau yn dechrau dwyn ffrwyth” gyda swyddi’n cael eu creu a’r economi’n sefydlogi.

Dywedodd y byddai’r Gyllideb y mis hwn yn “cadw at y trywydd, oherwydd nid oes unrhyw ddewis arall a all ddiogelu dyfodol ein gwlad.”