(Llun o wefan NSPCC)
Mae’r NSPCC wedi rhybuddio bod miloedd o bobl ifanc a phlant yn cam-drin ei gilydd yn rhywiol pob blwyddyn.

Mae’r elusen wedi darganfod bod mwy na 5,000 o achosion o gam-drin rhywiol gan bobl dan 18 oed wedi cael eu hadrodd wrth yr heddlu yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Mewn rhai achosion, mae’r cam-drin yn cael eu cyflawni gan blant mor ifanc â phump neu chwech mlwydd oed.

Mae 98% o’r troseddwyr yn fechgyn ac yn yr achosion lle cafodd y berthynas ei chofnodi, roedd o leiaf dri allan o bump o’r dioddefwyr adnabod eu ymosodwr meddai’r NSPCC.

Cafodd NSPCC yr ystadegau drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i bob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Ond dim ond 34 o luoedd yr heddlu wnaeth ddatgelu eu ffigurau sy’n golygu bod gwir nifer y troseddau yn debygol o fod yn uwch.

‘Angen gweithredu’

Dywedodd Claire Lilley, ymgynghorydd polisi yn yr NSPCC, bod angen gweithredu ar frys:

“Os ydym i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol yma, ac am ddiogelu dioddefwyr ifanc, mae angen gwneud mwy i adnabod a thrin plant sydd mewn perygl o droseddu’n rhywiol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Mae nifer y pobl ifanc sydd wedi derbyn rhybudd neu wedi eu cael yn euog o droseddau rhywiol wedi gostwng bron i chwarter dros y pum mlynedd diwethaf.

“Fodd bynnag, rydym gweithio ar sgiliau a phrofiad gweithwyr cymdeithasol fel eu bod nhw’n gallu adnabod yr arwyddion yn llawer cyflymach, yn ogystal â chryfhau’r arweiniad ar amddiffyn plant.”

Gall unrhyw un sy’n poeni am blentyn gysylltu â’r NSPCC ar 0808 800 5000.