Mae Ikea wedi tynnu selsig wiener oddi ar eu silffoedd, ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw gyhoeddi pryderon bod cig ceffyl yn eu pelenni cig.

Dywedodd y cwmni o Sweden fod olion cig ceffyl wedi cael eu darganfod yn y selsig sy’n cael eu gwerthu ym Mhrydain, Ffrainc, Sbaen, Iwerddon a Phortiwgal.

Dywedodd llefarydd ar ran Ikea: “Yn seiliedig ar ganlyniadau oddeutu cant o brofion rydyn ni wedi eu derbyn hyd yma, mae yna rai olion cig ceffyl.

“Ynghyd â’r cyflenwr Swedaidd dan sylw, rydyn ni wedi penderfynu tynnu cynnyrch yn ôl, gan gynnwys selsig wiener… gan y cyflenwr hwnnw.”

Pelenni cig

Cafodd pelenni cig ar draws Ewrop, Asia a’r Caribî eu tynnu oddi ar y silffoedd ddechrau’r wythnos. Dywed y  cwmni y bydd pelenni cig yn dal ar gael yn eu siopau gan mai dim ond un rhan o’r cyflenwad hwnnw oedd wedi ei effeithio.

Roedd y pelenni cig a gafodd eu tynnu oddi ar y silffoedd wedi’u pecynnu fel cig eidion a phorc yn barod i’w gwerthu yng Ngweriniaeth Tsiec.

Ddydd Llun, dywedodd y cwmni: “Mae Ikea wedi ymrwymo i weini a gwerthu bwyd o safon uchel sy’n ddiogel, iachus ac wedi’i gynhyrchu mewn ffordd sy’n gofalu am yr amgylchedd a’r bobol sy’n ei gynhyrchu.

“Dydyn ni ddim yn goddef cynhwysion gwahanol i’r rhai sydd yn ein ryseitiau neu fanylebau, sydd wedi eu sicrhau trwy safonau pendant, tystysgrifau a dadansoddiadau o gynnyrch gan labordai sydd wedi’u hachredu.”