Mae pennaeth Tesco wedi addo y bydd yn gweithio’n agosach gyda ffermwyr Prydain fel rhan o gyfres o newidiadau yn sgil yr helynt am gig ceffyl.

Mae prif weithredwr y cwmni archfarchnad Philip Clark wedi cyflwyno proses profion newydd fel y gall cwsmeriaid gael eu sicrhau mai’r hyn sydd ar y label sy’n cael ei gynnwys yn y bwyd.

O fis Gorffennaf, meddai wrth y BBC, fe fydd yr holl gig cyw iâr sy’n cael ei werthu yn archfarchnadoedd Tesco yn y DU yn dod o ffermydd Prydain.

Ond nid oedd yn gallu sicrhau na fyddai’r newidiadau yn costio mwy i’r cwsmeriaid.

Fe fydd Philip Clark yn annerch cynhadledd yr NFU ym Mirmingham heddiw.

Mae pôl piniwn heddiw yn awgrymu bod siopwyr eisiau mwy o fwyd o ffermydd Prydain ar silffoedd yr archfarchnadoedd yn sgil yr helynt cig ceffyl.