Pelenni cig Ikea
Mae cwmni dodrefn Ikea wedi rhoi’r gorau i werthu pelenni cig yn eu bwytai mewn 14 o wledydd Ewropeaidd ar ôl i gig ceffyl gael ei ddarganfod yn y cynnyrch oedd wedi ei allforio i’r Weriniaeth Siec.

Dywed y cwmni o Sweden eu bod nhw wedi ymateb oherwydd “pryderon posib ymhlith ein cwsmeriaid” gan ychwanegu nad oedd eu profion nhw wedi darganfod unrhyw olion o gig ceffyl.

Roedd y label ar y pelenni cig yn dangos eu bod yn cynnwys cig eidion a phorc ac wedi eu hanfon i’r Weriniaeth Siec i’w gwerthu yn siopau Ikea yno.

Bellach mae 760 kilo (1,675 pwys) o’r pelenni cig wedi cael eu hatal rhag cael eu gwerthu yn y siopau yno.

Cafodd y pelenni cig, sy’n cynnwys yr olion o gig ceffyl, hefyd eu gwerthu mewn siopau Ikea mewn gwledydd eraill gan gynnwys y DU, Ffrainc a Gwlad Pwyl, medd y cwmni.

Yn ogystal â gwerthu dodrefn, mae siopau Ikea yn cynnwys bwytai ac maen nhw hefyd yn gwerthu bwydydd traddodiadol o Sweden, gan gynnwys y pelenni cig.

Yn y cyfamser mae gweinidogion amaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn cwrdd ym Mrwsel i drafod yr helynt cig ceffyl gyda rhai gwledydd yn pwyso am reolau llymach i geisio adfer hyder y cyhoedd.