Mark Bridger
Mae’r achos yn erbyn Mark Bridger yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi ei ohirio ar y diwrnod cyntaf.

Mae Mark Bridger wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones ym Machynlleth ar Hydref 1. Mae hefyd wedi ei gyhuddo i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy waredu a chuddio ei chorff.  Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.

Roedd rhieni April, Coral a Paul Jones yn y llys heddiw.

Ymddangosodd Mark Bridger yn y llys ychydig cyn 1 o’r gloch.

Mae’r barnwr, yr Ustus Griffith Williams, wedi gohirio’r achos tan Ebrill 29, ar gais yr amddiffyniad fel eu bod yn gallu gwneud “ymholiadau pellach”.