Mae Plaid Cymru wedi dweud wrth Gomisiwn Silk fod angen trosglwyddo “pwerau sylweddol” i Gymru.

Yn eu plith mae pwerau dros yr heddlu, adnoddau naturiol ac ynni, Stad y Goron, trafnidiaeth a darlledu.

Daw tystiolaeth Plaid Cymru wythnos ar ôl i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones lunio rhestr ddatganoli debyg, gan roi datganoli’r heddlu ar y brig. Ond nid yw Llywodraeth Cymru am ddatganoli ynni niwclear na’r holl bwerau dros ddarlledu.

Dim angen deddf newydd

Mae ail ran y Comisiwn wedi dechrau edrych ar drosglwyddo mwy o bwerau i Gymru, ac yn ôl Plaid Cymru mae angen gwneud i ddatganoli weithio’n well a rhoi mwy o bwerau yn nwylo pobol Cymru.

Ni fyddai angen deddfwriaeth newydd er mwyn datganoli’r grymoedd medd Plaid Cymru, sy’n cyd-fynd gyda’r hyn ddywedodd Llywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf.

Ond dywed Plaid Cymru y byddai angen deddfwriaeth newydd er mwyn i Gymru symud at fodel datganoli’r Alban, ble mae’r senedd yn Holyrood yn dal y pwerau dros bob mater sydd heb eu heithrio gan y ddeddf.

Plismona Cymreig

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, fod angen “mwy o gysondeb yn y setliad datganoli.”

“Dylai’r model pwerau a gedwir yn ôl sydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei fabwysiadu yng Nghymru i roi mwy o eglurder am lle mae’r pwerau, yn hytrach na’r system niwlog bresennol.

“Bydd hyn yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac atebol.

“Nawr fod Cymru yn gwneud ei chyfreithiau ei hun, mae angen amlwg am awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig i adlewyrchu hyn, a dylai hyn gael ei gyflwyno ar fyrder, a’i ddilyn gan bwerau plismona Cymreig a phwerau cyfiawnder troseddol.

“Gan nad oes rheswm dros oedi’r cynigion hyn, dylem gael Deddf Llywodraeth Cymru cyn gynted ag sy’n ymarferol fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio’r pwerau hyn er lles pobl Cymru.”