Catherine Gowing
Mae’r dyn a lofruddiodd y milfeddyg Catherine Gowing wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw.

Roedd Clive Sharp, 47, o Wynedd, wedi cyfaddef llofruddio Catherine Gowing, 37, a ddiflannodd o’i chartref yn New Brighton ym mis Hydref y llynedd.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith Williams bod cymhelliad rhywiol i’r llofruddiaeth a bod Sharp yn “peri perygl i ferched”. Dywedodd  bod Sharp wedi cynllwynio’n ofalus cyn ymosod ar Catherine Gowing a bod ei llofruddiaeth yn “arswydus.”

Fe fydd Sharp yn gorfod treulio lleiafswm o 37 mlynedd dan glo cyn gwneud cais am barol.

Clywodd y llys bod Sharp eisoes wedi treulio cyfnodau yn y carchar am droseddau rhywiol.

‘Didrugaredd’

Roedd Catherine Gowing wedi bod yn gweithio am 18 mis fel milfeddyg yn Yr Wyddgrug a chafodd yr heddlu eu galw ar ôl iddi fethu a dod i’w gwaith ar fore Llun ym mis Hydref y llynedd.

Ar ôl ymgyrch gan Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am y milfeddyg, oedd yn dod o Iwerddon yn wreiddiol,  fe ddaethon nhw o hyd i rannau o’i chorff yn Sealand Sir y Fflint ac yng Nghaer.

Dywedodd y barnwr bod Sharp wedi torri mewn i dŷ Catherine Gowing yng nghanol y nos, ac wedi ei chlymu i’r gwely gan ei threisio sawl gwaith a’i cham-drin yn rhywiol.

Yna, mewn “gweithred ddidrugaredd” arall, meddai’r barnwr, fe dorrodd ei chorff yn ddarnau a chael gwared arno mewn sawl lle ar hyd Afon Ddyfrdwy.

Dywedodd Emma Gowing, chwaer Catherine, bod Sharp wedi “achosi poen, dioddefaint a galar anhygoel” i’r teulu ac na fyddai eu bywydau fyth yr un fath.