Mae system fwyd y byd “y tu hwnt i reolaeth”, meddai’r mudiad sy’n cefnogi masnach deg.

Ond, wrth ei thrwsio, meddai’r Sefydliad Masnach Deg, mae angen canolbwyntio ar ffermwyr bychain yng ngwledydd tlota’r byd.

Yn ôl ffigurau newydd, mae gwerthiant nwyddau masnach deg wedi codi bron 20% yng ngwledydd Prydain a bellach werth tuag £1.5 biliwn y flwyddyn.

Mae hynny’n dangos bod pobol eisiau system decach, meddai’r Sefydliad – ar hyn o bryd, medden nhw, dyw’r drefn yn helpu neb, yn brynwyr, busnesau na chynhyrchwyr.

Ac maen nhw’n dweud bod bwydydd cyfarwydd fel siocled a choffi mewn peryg o fynd yn brin oherwydd y system.

Mae’r Sefydliad yn galw ar lywodraethau a busnesau i gefnogi’r ffermwyr bach – mae 500 miliwn ohonyn nhw trwy’r byd yn cynhyrchu 70% o holl fwyd y blaned.