Cig ceffyl (Richard W.M. Jones CCA3.0)
Mae cwmni Nestle yn y Swisdir wedi dweud nad yw’r cynnyrch sydd wedi cael ei alw’n ôl ar y cyfandir ar werth yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd cynnyrch pasta ei alw’n ôl yn Yr Eidal, Sbaen a Ffrainc yn dilyn pryderon fod yna olion cig ceffyl ynddo.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddai’n gwneud datganiad am y sefyllfa ddiweddaraf yn fuan, ond ychwanegodd nad yw dau gynnyrch pasta sy’n cynnwys mwy nag 1% o gig ceffyl yn cael eu gwerthu yma.

Mae Nestle hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cryfhau eu systemau profi yn dilyn yr helynt cig ceffyl a’r adroddiadau bod cig eidion wedi cael ei labelu’n anghywir.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: “Byddwn yn parhau i brofi ein cynnyrch yn unol â blaenoriaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd a chaiff y canlyniadau eu hadrodd i’r Asiantaeth Safonau Bwyd.”

Rhoi’r gorau i ddefnyddio cyflenwr o’r Almaen

Mae’r cwmni wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cynnyrch sy’n cael ei gyflenwi iddyn nhw gan y cwmni Almaenig, HJ Schypke.

Ychwanegodd Nestle fod HJ Schypke wedi torri’r rheolau labelu ac wedi methu â chyrraedd y safonau y mae cwsmeriaid yn eu disgwyl.

Dywedon nhw y byddai’r cynnyrch yn cael ei dynnu oddi ar y silffoedd, ac y bydd cynnyrch sydd wedi cael ei brofi’n drwyadl yn cael ei werthu yn ei le.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylch, Owen Paterson ddoe ei fod yn benderfynol o adfer ffydd cwsmeriaid yn y diwydiant bwyd yn dilyn yr helynt cig ceffyl.

Mae 29 o brofion hyd yma wedi dangos bod olion cig ceffyl yng nghynnyrch Aldi, y Co-op, Findus, Rangeland a Tesco.

Hyd yma, mae 2,501 o brofion wedi cael eu cynnal ar gig mewn archfarchnadoedd.

Mae cwmni tafarndai a lletygarwch Whitbread hefyd wedi cadarnhau bod olion cig ceffyl wedi ymddangos yn eu bwyd, ac mae’r cynnyrch wedi cael ei dynnu oddi ar y fwydlen.

Mae cig ceffyl hefyd wedi cael ei ddarganfod mewn prydau parod mewn ysgolion yn Sir Gaerhirfryn.