Wal derfyn uchaf Cymru (llun PC Eryri)
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cwblhau’r gwaith o atgyweirio wal derfyn uchaf Cymru sydd wedi ei lleoli ar fynydd Foel Fras ynghanol mynyddoedd y Carneddau.
Yn ôl rhai, milwyr fu’n brywdro’n erbyn Napoleon fu’n gyfrifol am adeiladu’r wal sydd dros 3,000 o droedfeddi uwchlaw’r môr, ond yn ôl eraill, carcharorion rhyfel piau’r clôd.
Fe wnaeth y wal ddymchwel oherwydd y tywydd garw eithafol ond gyda chymorth grant o £5,000 gan y Parc, llwyddwyd i adfer tua 300m o’r wal yn ôl i’w chyflwr gwreiddiol.
Dewi Jones o Rowen yn Nyffryn Conwy gafodd y gwaith o ail adeiladu’r wal. Llwyddodd i ail ddefnyddio’r cerrig gwreiddiol ynghyd â defnyddio’r un arddull unigryw wrth osod y cerrig yn ôl yn eu lle.
Wrth weld y gwaith wedi ei gwblhau, dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth ac Amaeth yr Awdurdod,
“Yr hyn sy’n gwneud y wal yma mor arbennig yw’r ffordd mae’r cerrig wedi eu gosod – y cerrig cloi sef y cerrig hir gwastad wedi eu gosod ar letraws – ac felly’n cadw at nodweddion traddodiadol ac arbennig y wal wreiddiol. Rhaid llongyfarch Dewi Jones ar safon uchel ei waith o ail adeiladu’r wal, a’i longyfarch hefyd am iddo lwyddo i gwblhau’r gwaith ar un o’r llecynnau mwyaf anghysbell ac anhygyrch yn Eryri. Mae waliau cerrig sych yn un o nodweddion arbennig Eryri ac yn adlewyrchu sut byddai’n cyndeidiau’n rheoli eu tir a’u stoc. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r wal arbennig hon, nid yn unig yn derfyn buddiol i’r amaethwyr ac yn cynnig cysgod i’r defaid, mae hefyd yn ganllaw i gerddwyr, yn arbennig rhai sy’n dewis cwblhau’r pedair copa ar ddeg.”