Subhan Anwar (llun yr heddlu)
Mae dau ddyn sydd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio llofrudd plant mewn carchar yn Lloegr wedi cael eu cadw yn y ddalfa.

Ymddangosodd Gary David Smith, 47 oed, a Lee William Newell, 44 oed, trwy linc fideo yn Llys y Goron Caerwrangon, wedi eu cyhuddo o lofruddio Subhan Anwar yng ngharchar Long Lartin.

Cafodd Anwar ei ganfod wedi marw yn ei gell ddydd Iau diwethaf.

Dangosodd profion post mortem fod ei wddf wedi cael ei dorri.

Cafodd Anwar ei ddedfrydu i oes o garchar yn 2009 am ladd merch dwy oed ei bartner.

Mae’r ddau sydd wedi cael eu cyhuddo o’i lofruddio wedi cael eu symud erbyn hyn i garchardai yn ne ddwyrain Lloegr.

Cafodd yr achos ei ohirio, ac fe fydd gwrandawiad ple a rheoli achos ar Fai 7.