Mae pwyllgor yn y Cynulliad heddiw’n trafod yr angen i reoli gwaith seicics yng Nghymru.

Mae deiseb wedi ei hanfon at y Pwyllgor Deisebau eisiau tynnu sylw ymarferwyr seicig at yr angen i fasnachu’n deg.

Yn ôl deiseb Ant Edwards mae angen “codi ymwybyddiaeth darparwyr gwasanaethau seicig a’r cyhoedd o ddarpariaethau Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008”.

‘Dim cwynion’

Mae’r pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan Lais Defnyddwyr Cymru, a ddywedodd nad yw “gwasanaethau seicig erioed wedi cael ei godi yn y tair blynedd ers sefydlu Llais Defnyddwyr Cymru, naill ai gan grwpiau yn y maes neu gan ddefnyddwyr yn uniongyrchol.”

Dyww Cyngor ar Bopeth ddim wedi derbyn cŵyn ar y mater chwaith, ond dywedodd Rhys Evans o Lais Defnyddwyr Cymru nad yw “diffyg tystiolaeth yn golygu nad oes problem yn y maes, ac yn wir mae’r ddeiseb yn awgrymu fod yna un”.

Ychwanegodd y gallai defnyddwyr fod yn gyndyn i gwyno am fod cywilydd ganddyn nhw eu bod nhw wedi cael eu twyllo.

Diogelwch defnyddwyr heb ei ddatganoli

Y llynedd ysgrifennodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, at y pwyllgor i ddweud nad yw diogelwch defnyddwyr yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond bod gan awdurdodau lleol rôl wrth weithredu rheolau safonau masnach.

Mae’r pwyllgor deisebau wedi anfon llythyr at benaethiaid Safonau Masnach yng Nghymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn i’w haelodau fod yn ymwybodol o fater gwasanaethau seicig a masnachu teg.