Bae Colwyn (Cynnwys data Arolwg Ordnans - hawlfraint y Goron)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhorthdal o £6 miliwn i ddiogelu tai a chysylltau trafnidiaeth ar lan y môr ym Mae Colwyn.

Bwriad y cynllun yw diogelu 180 o dai, ffordd yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, hyd 3.5 milltir o’r bae.  Bydd y gwaith yn rhan o strategaeth gynaliadwy Cyngor Sir Conwy i amddiffyn glannau’r dref.

Adeiladwyd llawer o’r amddiffynfeydd presennol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae gostyngiad yn lefel y traethau yn golygu bod yr amddiffynfeydd yn fwy agored, ac yn fwy tebygol o fethu.

  • Bydd 300,000 metr ciwbig o dywod yn cael ei osod i godi lefelau’r traeth.
  • Bydd cyfleuster chwaraeon dŵr hefyd yn cael ei sefydlu ar yr arfordir, i ddenu twristiaeth a chreu gwasanaeth i bobol leol.

Dyma’r cam cyntaf o gynllun amddiffyn arfordir Bae Colwyn, a ddisgwylir i gostio £81 miliwn yn y pendraw, i sicrhau bod amddiffynfeydd yr ardal yn gadarn am y can mlynedd nesaf.

‘Peryg i un tŷ ym mhob chwech’

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths: “Mae un o bob chwech adeilad mewn perygl o ddioddef llifogydd ac rydym yn cydnabod y bydd y risg o lifogydd ac erydu arfordirol yn cynyddu wrth i’r hinsawdd newid ac wrth i lefel y môr godi.