Vicky Price (Llun: PA)
Mae’r rheithgor yn yr achos llys yn erbyn gwraig y cyn Weinidog Ynni Chris Huhne yn ystyried eu penderfyniad am y trydydd diwrnod.
Hyd yn hyn, dyw’r wyth gwraig a phedwar dyn yn Llys y Goron Southwark ddim wedi gallu penderfynu a yw Vicky Price, 60, yn euog ai peidio o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Er ei bod yn cyfadde’ i bod wedi cymryd pwyntiau goryrru ar ran ei gŵr, mae’n pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad ar y sail ei bod wedi cael ei gorfodi gan ei gŵr.
Fe ddigwyddodd y drosedd yn 2003 pan oedd Chris Huhne ar naw pwynt ac mewn peryg o golli ei drwydded pan oedd yng nghanol y broses o geisio bod yn ymgeisydd seneddol.
‘Rhoi pwysau’
Mae Vicky Price, sy’n economegydd amlwg, wedi dweud wrth y llys fod Chris Huhne wedi rhoi pwysau arni i arwyddo ffurflen yn dweud mai hi oedd yn gyrru.
Fe ddaeth yr wybodaeth i’r amlwg ym mis Mai 2011 ar ôl i Chris Huhne adael Vicky Price am fenyw arall.
Mae Chris Huhne ei hun yn wynebu cyfnod o garchar ar ôl pledio’n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae wedi ymddiswyddo o fod yn Aelod Seneddol.