Cantref ym Mannau Brycheiniog
Parc Cenedlaethol y Bannau yw’r pumed lle yn y byd i gael ei ddynodi’n warchodfa ar gyfer gwylio’r sêr, diolch i awyr dywyll yr ardal.
Dyma’r lle cyntaf yng Nghymru i dderbyn y statws, gan Gymdeithas Ryngwladol yr Awyr Dywyll, sydd wedi ei lleoli yn yr Unol Daleithiau.
Maen nhw’n rhoi cydnabyddiaeth i ardaloedd ble mae’n bosib gweld y sêr a gweithgareddau byd natur yn ystod y nos, heb fod golau stryd yn amharu.
Lansiodd Awdurdod a Chymdeithas y parc brosiect yn 2011 i gael cydnabyddiaeth i awyr dywyll yr ardal.
Llwybr Llaethog
Yn ôl Martin Morgan-Taylor, aelod o fwrdd Cymdeithas Ryngwladol yr Awyr Dywyll, mae gormod o olau yn wael i greaduriaid ac i bobol, ac mae llai o bobol yn medru gweld y sêr a’r llwybr llaethog o’u gerddi o achos llygredd golau.
“Mae’r golygfeydd gorau o awyr y nos yn dod o lefydd fel y Bannau Brycheiniog, sydd wedi ymroi eu hunain i ddiogelu ac adfer awyr y nos i bawb gael mwynhau,” meddai Martin Morgan-Taylor.
Yn ôl y seryddwr Bob Mizon mae golau sêr a gofodau pellennig yn cymryd miloedd a miliynau o flynyddoedd i’n cyrraedd ni.
“Am drueni i golli’r cyfan yn chwinciad olaf ei siwrnai,” meddai.