as
Y fogfa - un o'r cyflyrau tymor hir (Llun - Asthmea UK)
Mae cannoedd o blant yn marw bob blwyddyn o achos ffaeleddau’r gwasanaeth iechyd, meddai Llywodraeth Prydain heddiw.

Byddai 1,600 o fywydau yn cael eu harbed pe bai’r gwasanaeth cystal â’r goreuon yn Ewrop, medd Dan Poulter, y Gweinidog Iechyd, wrth alw am “welliannau mawr” mewn gofal iechyd i blant.

Ar un adeg, roedd cyfradd marwolaethau plant yn gyfartal â’r gyfradd yng ngweddill Ewrop, ond bellach mae ymhlith y gwaetha’, meddai.

Ac roedd un o bob pedwar o’r marwolaethau’n dangos diffyg mewn gofal uniongyrchol.

Amrywiaeth yn y gofal

Mae disgwyl i’r Llywodraeth yn San Steffan gyhoeddi addewid heddiw i leihau nifer y marwolaethau.

Fe fydd mesurau newydd yn cynnwys ei gwneud hi’n haws i’r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol ddod o hyd i wybodaeth well am batrymau problemau iechyd yn lleol.

Yn ôl Dan Poulter mae yna amrywiaeth yn ansawdd y gofal ar draws gwledydd Prydain wrth drin cyflyrau tymor-hir megis y fogfa a chlefyd siwgr.

‘Ymhlith y gwaethaf’

“Ers cryn amser mae cyfradd marwolaethau plant Prydain ymhlith y gwaethaf yn Ewrop o gymharu gyda gwledydd tebyg,” meddai’r Gweinidog.

“Mae’r addewid yr ’yn ni’n ei wneud heddiw yn arddangos sut bydd pob rhan o’r system yn chwarae eu rhan nhw ac yn cydweithio er mwyn gwella iechyd plant.”

Mae iechyd wedi ei ddatganoli.