Priodas dylwyth teg? Willliam a'i wraig
Fe ddaeth yn amlwg fod nofelydd mwya’ llwyddiannus Lloegr wedi ymosod yn ffyrnig ar y ddelwedd sydd wedi ei chreu o Kate Middleton, Duges Caergrawnt.

Roedd Hilary Mantel, sydd wedi ennill dwy wobr Booker, wedi galw’r dduges yn “fodel ffenest siop” ac wedi awgrymu mai ei hunig bwrpas bellach oedd “magu plant”.

Dim ond yn awr y mae’r sylwadau wedi dod i’r amlwg – er eu bod yn rhan o ddarlith a roddodd y nofelydd yn yr Amgueddfa Brydeinig bythefnos yn ôl.

‘Dim cymeriad’

Roedd Hilary Mantel yn awgrymu bod Kate Middleton wedi ei dewis i fod yn ddarpar frenhines am nad oedd “unrhyw beryg” ei bod yn dangos ychydig o gymeriad.

Lle’r oedd hi wedi cael ei phortreadu fel rhyw fath o fodel, roedd hi bellach wedi gorfod cymryd rôl darpar fam.

“Unwaith y bydd hi’n dod tros fod yn sâl, fe fydd y wasg yn gweld ei bod hi’n ‘disgleirio’,” meddai Hilary Mantel, sy’n enwog am nofelau am y Llys Brenhinol yng nghyfnod y Tuduriaid.