Gorsaf losgi glo Aberddawan
Fe fydd pobol gwledydd Prydain yn gorfod talu rhagor am eu trydan am fod gorsafoedd ynni hen ffasiwn yn cau.
Dyna rybudd pennaeth y corff arolygu, Ofgem, sy’n dweud fod y gallu i gynhyrchu trydan yn cwympo’n gyflym.
Mae wedi sgrifennu erthygl yn y Daily Telegraph heddiw ac fe fydd yn gwneud araith y prynhawm yma yn rhybuddio fod argyfwng ar y ffordd.
Mae’n dweud fod angen cynyddu’r cyflenwad nwy sydd ar gael ac fe allai hynny ffyrnigo’r dadlau tros ffynonellau ynni dadleuol fel ffracio.
Mewnforio rhagor a phrisiau uwch
Os na fydd cynnydd, meddai Alistair Buchanan, fe fydd rhaid i wledydd Prydain fewnforio rhagor o nwy, neu dalu prisiau llawer uwch am eu trydan.
Mae gorsafoedd olew a glo’n cael eu cau oherwydd eu hoed a lefelau llygredd ac mae’r cwymp yn y gallu i gynhyrchu trydan yn digwydd ar yr union adeg pan fo’r galw am nwy yn codi trwy’r byd, meddai.
Mae’n darogan y bydd 25% yn llai o nwy’n cael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain erbyn 2020 ac y bydd y trydan sydd “tros ben” yn cwympo o 14% o’r gallu cynhyrchu i 5% yn ystod y tair blynedd nesa’.