Ysbyty Blaenau Ffestiniog
Mae corff ymgyrchu newydd wedi cael ei sefydlu i herio cynlluniau i gau ysbytai yng ngogledd Cymru.

Mewn cyfarfod yn Llanelwy neithiwr, fe gafodd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru ei ffurfio yn sgil cynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Roedd yn tynnu at ei gilydd nifer o ymgyrchoedd gwahanol mewn gwahanol rannau o ogledd Cymru.

Un cam posib fydd cynnig her gyfreithiol i’r cynlluniau, gan alw am arolwg barnwrol.

Protest yn y Blaenau

Fe ddaw’r datblygiad neithiwr ar ôl protest anferth ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn, pan oedd cannoedd yn y strydoedd yn protestio yn erbyn bwriad i gau’r ysbyty lleol yno.

Mae bwriad hefyd i gau ysbytai yn Y Fflint, Prestatyn a Llangollen a chynllun dadleuol i symud y gofal mwya’ dwys i fabanod tros y ffin i Loegr.

Fe fydd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr – y corff sy’n cynrychioli cleifion – yn cyfarfod heddiw i drafod eu hymateb nhw i’r cynlluniau.