Mae teuluoedd y 96 o bobol a gafodd eu lladd yn nhrychineb Hillsborough yn 1989 wedi gofyn i’r crwner bennu dyddiad ac amser yn gyflym ar gyfer cwestau o’r newydd.

Cafodd yr Arglwydd Ustus Goldring ei benodi ddoe, ac fe fydd yn gyfrifol am gynnal cwestau o’r newydd, wedi i adroddiad gael ei gyhoeddi fis Medi diwetha’ yn dweud fod Heddlu De Swydd Efrog wedi celu gwybodaeth yn y cwestau cyntaf.

Cafodd rheithfarn y cwestau cyntaf ei ddiddymu yn yr Uchel Lys.

Dyweddodd cadeirydd Grŵp Cymorth Teuluoedd Hillsborough, Margaret Aspinall: “Mae’n bwysig rhoi amserlen i ni fel y gallwn ni roi gwybod i’r teuluoedd.

“Rwy’n siwr y byddan nhw’n sylweddoli pryderon y teuluoedd. Bu’n 24 o flynyddoedd – mae hynny’n amser hir uffernol.”

Y cwestau – nid yn Sheffield

Mae’r teuluoedd wedi dweud nad ydyn nhw am i’r cwestau newydd gael eu cynnal yn Sheffield, lle digwyddodd y drychineb.

Bu farw mab Margaret Aspinall, James, oedd yn 18 oed yn y stadiwm. Ychwanegodd: “Y mater pwysicaf yw lle fydd e’n cael ei gynnal. Mae’r cwest yn mynd i gymryd amser hir.

“Ydyn, rydyn ni am iddo fod yn drylwyr, ond rydyn ni am iddo fod drosodd mor gyflym â phosib hefyd.”

Mae’r heddlu a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd yn ymchwilio i’r digwyddiad.