Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod nifer siaradwyr yr iaith Wyddeleg wedi cynyddu yn rhai rhannau o Ogledd Iwerddon.
Yn ôl yr ystadegau, mae 18% o boblogaeth Dungannon yn medru’r iaith, tra bod 20% o boblogaeth Newry a Mourne yn ei siarad hi.
Dywedodd 10,050 o bobl Dungannon fod ganddyn nhw allu yn o leiaf un o’r sgiliau ieithyddol.
Yn ôl rhai arbenigwyr, mae cytundeb Gwener y Groglith wedi codi ymwybyddiaeth o’r Wyddeleg ymhlith rhannau helaeth o’r boblogaeth, ac fe ddaeth tro ar fyd yn y ffordd y caiff yr iaith ei dysgu mewn ysgolion.
Ond mae yna wrthwynebiad i’r iaith hefyd, yn enwedig o gyfeiriad rhai unoliaethwyr sy’n credu bod yr iaith yn peryglu perthynas Gogledd Iwerddon a Phrydain.