Mae’r deg awdur sydd ar restr fer Hoff Awdur Cymraeg Cymru, wedi eu cyhoeddi.
O Chwefror 25 ymlaen, bydd modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff awdur ar wefan Radio Cymru (www.bbc.co.uk/radiocymru), a bydd yr enw sy’n dod i’r brig yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 7, Diwrnod y Llyfr.
Y deg awdur sydd wedi eu gosod ar y rhestr fer ydi: Caradog Prichard, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Price, Manon Steffan Ros, Dewi Prysor, Jon Gower, Kate Roberts, Caryl Lewis, Bethan Gwanas a William Owen Roberts.
Fe gafodd y rhestr ei llunio gan banel o arbenigwyr oedd yn cynnwys dau lyfrwerthwr, dau lyfrgellydd, cynrychiolwyr Llenyddiaeth Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Merched y Wawr, Y Cymro, Golwg a Barn, yn ogystal â’r adolygydd, Catrin Beard.