Michael Christian (chwith) a Mel Greig
Mae un o’r ddau DJ o Awstralia a oedd yng nghanol y storm tros alwad ffôn wamal i’r ysbyty lle’r oedd Duges Caergrawnt yn derbyn triniaeth, yn ôl ar yr awyr.
Roedd Michael Christian a Mel Greig yn destun sylw byd-eang ym mis Rhagfyr y llynedd, wedi iddyn nhw ffonio Ysbyty’r Brenin Edward VII yn Llundain a chymryd arnyn mai nhw oedd y Frenhines a Thywysog Cymru.
Fe gawson nhw eu gwahardd o’u gwaith ar orsaf 2Day FM yn Sydney wedi i’r nyrs a atebodd y ffôn gael ei chanfod yn farw.
Ond bellach, mae Michael Christian yn ôl y tu ôl i’r meic, yn ninas Melbourne.
Fe ddaw’r datblygiad hwn wedi datganiad gan erlynwyr yng ngwledydd Prydain na fydd yr un o’r ddau ddarlledwr yn cael eu dwyn o flaen llys ar ôl marwolaeth y nyrs Jacintha Saldanha.