Mae naw o bobol wedi eu lladd, ac mae wyth arall ar goll, ar ôl ffrwydriad mewn pwll glo yng ngogledd Rwsia.

Mae timoedd achub ar waith ar hyn o bryd yn chwilio am y dynion ym mhwll Vorkutinskaya yn rhanbarth Komi. Roedd y nwy methan wedi crynhoi, a dyna achosodd y ffrwydriad, yn ôl adroddiadau cynnar.

Mae Pyotr Lomakov, llefarydd lleol ar ran llywodraeth yn yr ardal, wedi cadarnhau ar orsaf deledu Rossiya 24 fod yna 23 o ddynion yn y pwll adeg y ddamwain.

Roedd pedwar ohonyn nhw wedi gallu dianc ar eu pennau eu hunain, ac fe gafodd dau arall eu hachub.

Mae damweiniau’n bethau gweddol reolaidd mewn pyllau glo yn Rwsia.