Mae adroddiadau papur newydd dros y Sul yn honni fod y canwr opera, Bryn Terfel a’i wraig, Lesley, yn ysgaru – a hynny ar ôl chwarter canrif o briodas.

Yn ôl adroddiadau yn y Mail on Sunday ddoe, mae’r cwpwl wedi gwahanu ers cyn Dolig, a bod y stori wedi dod i’r amlwg ar ôl ffeit yn un o glybiau nos Caernarfon.

Doedd Bryn Terfel ei hun ddim yn rhan o’r digwyddiad hwnnw, ond yn hytrach roedd ei wraig yno gyda gwr 27 oed sy’n honni ei fod yn gariad iddi.

Ar ôl iddo fod yn rhan o gwffas a chael gwydr yn ei wyneb, fe ddywedodd Ian Plemming wrth rai o’r bownsars wrth y drws ei fod mewn perthynas â Lesley Terfel, a’i bod hi’n ysgaru ei gwr ac yn debygol o dderbyn £8m fel setliad.

Yn ôl y papur, fe ddaeth datganiad ddydd Gwener gan Bryn Terfel trwy ei asiant, Doreen O’Neill, yn cadarnhau’r gwahanu, ac yn dweud nad oedd yn ymwybodol o’r berthynas nes ar ôl y digwyddiad yng nghlwb nos Cofi Roc.

Mae Bryn Terfel yn Milan yn Yr Eidal ar hyn o bryd, yn perfformio mewn opera.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Doreen O’Neill.