Mae tre’ yn ne’r Philipinas yn trefnu i gynnal angladd i grocodeil dwr halen mwya’r byd. Fe fu farw Lolong (dyna’i enw) ar ôl cyfnod byr o salwch mewn parc eco-dwristiaeth.
Mae maer tre’ Bunawan yn ardal Agusan del Sur yn dweud fod gweddillion y crocodeil a oedd yn pwyso tunnell, yn mynd i gael eu cadw mewn amgueddfa er mwyn denu twristiaid.
Fe gyhoeddwyd fod y creadur, a oedd yn mesur dros 20 troedfedd (6 metr) o’i ben i’w gynffon, yn farw ddydd Sul. Roedd wedi bod am rai oriau’n troi a throsi yn y dwr, a’i stumog wedi chwyddo.