Mae cwffio ymysg ffans pêl-fasged wedi amharu ar rownd derfynol Cwpan Gwlad Groeg. Fe gafodd y gêm rhwng Panathinaikos ac Olympiakos ei gohirio am awr, cyn i Panathinaikos ennill 81-78 yn y diwedd o flaen torf denau iawn.

Fe ddechreuodd yr ymladd gyda dim ond saith munud i fynd o’r ail chwarter. Roedd Panathinaikos ar y blaen ar y pryd, 26-17.

Dyna pryd y bu ychydig o densiwn rhwng y chwaraewyr Stefan Lasme a Pero Antic o dan y fasged. Fe darodd y naill y llall yn ei ben.

Yna, fe ymatebodd ffans Olympiakos trwy daflu nifer o bethau ar y cwrt. Fe drawyd y chwaraewyr Mike Bramos, ac yntau’n eistedd ar y fainc ar y pryd.

Fe redodd rhai o’r ffans ar y cwrt a dechrau ymladd. Yna, fe ddaeth heddlu reiat, gan ddefnyddio gynnau grenâd i drio cadw rheolaeth. Fe geisiodd ffans Olympiakos gael mynediad i’r adran VIP, ac fe fuon nhw’n rhwygo seti o’u lle, cyn eu taflu at yr heddlu.