Lindsay Sandiford
Mae cyfreithiwr sy’n cynrychioli nain o Brydain sydd wedi ei dedfrydu i farwolaeth am smyglo’r cyffur cocên, wedi cyflwyno apêl ar ei rhan.

Fe gafodd Lindsay Sandiford ei dal yn cario gwerth $2.5m (£1.58m) o’r cyffur i mewn i ynys Bali mewn cês.

Yn yr apêl, mae’r cyfreithiwr yn honni bod Sandiford wedi cyflwyno gwybodaeth a arweiniodd at ei dedfrydu. Ond chafodd hynny ddim ei ystyried gan y llys.

Mae’r nain 56 mlwydd oed yn cyfadde’ i’r drosedd, ond yn teimlo fod y ddedfryd yn rhy lym.