Fe fu gostyngiad yn nifer y teithwyr o Ewrop a fu’n defnyddio maes awyr Gatwick yn ystod mis Ionawr.

Fe aeth ychydig dan 2.1 miliwn o deithwyr trwy gatiau’r maes awyr ar ddechrau 2013 – gostyngiad o 0.8% o gymharu â mis Ionawr 2012.

Fe fu cwymp yn nifer yr awyrennau o Ewrop, yn ogystal â’r awyrennau o Ogledd yr Iwerydd.

Ond roedd cynnydd yn nifer yr awyrennau o rannau eraill o’r byd, a chodiad o 2.7% yn yr awyrennau o Ynysoedd y Sianel.

Mae’r ystadegau’n cael eu cyhoeddi ychydig oriau cyn i Faer Llundain, Boris Johnson, ymddangos gerbron Pwyllgor Trafnidiaeth Ty’r Cyffredin, i roi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad ar strategaeth hedfan.