Mae mwy na 100 o bobol wedi cael eu lladd yn ne Sudan, wedi i giang ymosod ar lwyth a oedd yn gyrru gwartheg ar draws afon Sobat.

Ymhlith y 103 o bobol a gafodd eu lladd, roedd 14 o filwyr byddin De Sudan.

Y gred ydi fod yr ymosodwyr yn aelodau o grwp o rebeliaid sy’n cael eu harwain gan David Yau Yau, cyn-aelod o’r fyddin. Mae Yau Yau yn perthyn i lwyth y Murle.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i lwyth arall y Lou Nuer yrru eu gwartheg dros afon Sobat – peth maen nhw’n ei wneud bob blwyddyn wrth fudo.