Mae bws yn llawn o bererinion Mwslimaidd wedi plymio oddi ar bont yn Bangladesh, gan ladd o leia’ 16 o bobol.
Mae’r cyrff sydd wedi eu darganfod yn cynnwys plant, ac mae 15 arall o bobol wedi cael eu cludo i ysbyty.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ardal Cox’s Bazar, 185 milltir i’r de o’r brifddinas, Dhaka.
Roedd y bws yn cario 43 o bobol a oedd ar eu ffordd yn ôl o ymweliad â man cysegredig y sant Mujibur Rahman Maizbhandari.