Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn symud yn ddigon cyflym i fynd i’r afael â phrinder staff mewn unedau mamolaeth yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn casglu bod ysbytai Cymru yn darparu gwasanaethau mamolaeth priodol yn gyffredinol, ond mae pryderon yn parhau ynghylch y pwysau sydd ar adnoddau a staffio.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Roedden nhi’n teimlo bod diffyg brys o ran cynnydd Llywodraeth Cymru ar adeg pan fo adnoddau o dan bwysau a phan fo newidiadau radical yn digwydd i’r modd y darperir gwasanaethau gan Fyrddau Iechyd Lleol.

“Roedd hwn yn fater o bryder sylweddol i ni.

“Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau a baratowyd gan y Pwyllgor hwn, ei rhagflaenydd a Swyddfa Archwilio Cymru.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y pryderon hyn a mynd i’r afael â hwy fel mater o frys.”

Argymhellion

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi eglurhad o’i disgwyliadau o’r isafswm staffio sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gwasanaethau bydwreigiaeth ac obstetreg ddiogel a chynaliadwy;
  • Mae angen eglurhad o sut y mae’r gwaith o gasglu data gan fyrddau iechyd ar eu lefelau staffio bydwreigiaeth
  • Sut mae’r wybodaeth honno’n cael ei defnyddio er mwyn penderfynu os yw’r  disgwyliadau’n cael eu cyflawni;
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwell eglurder o ran gweithredu Cynlluniau Cyflawni Lleol;
  • Mae angen cyhoeddi amserlen glir ar gyfer llunio’r cynlluniau hynny;

Un o bob pedair genedigaeth

Mae un o bob pedwar babi yng Nghymru yn cael ei eni trwy lawdriniaeth Cesaraidd.

Mae’r adroddiad hwn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro a chyhoeddi ei diffiniad o “ostyngiad sylweddol” yn niferoedd toriad Cesaraidd, a sut y maen nhw am weld gostyngiad yn y nifer.