Mae’r Guardian a’r BBC wedi gohebu bod meddygfa ym Maesteg wedi ymddiheuro ar ôl anfon llythyr at gleifion yn gofyn iddynt lenwi ffurflen ‘peidio adfywio’.

Gofynnai’r llythyr gan feddygfa Llynfi i gleifion arwyddo’r ffurflen fyddai’n golygu na fyddai’n rhaid i’r gwasanaethau brys fynychu pe bai eu cyflwr yn gwaethygu yn sgil coronafeirws.

“Ni fyddwn yn eich gadael chi… ond mae’n rhaid i ni fod yn blwm ac yn blaen, ac yn realistig,” meddai’r llythyr.

Dywed papur newydd y Guardian fod bwrdd iechyd Cwm Taf wedi ymddiheuro.

Mae’r llythyr yn dweud y byddai meddygon wedi cael y drafodaeth wyneb yn wyneb “mewn sefyllfa ddelfrydol,” ond bod rhaid ysgrifennu’r llythyr oherwydd y pandemig coronafeirws.

Honnai’r llythyr y byddai sawl mantais o lofnodi’r ddogfen.

“Byddai eich meddyg teulu ac yn bwysicach eich ffrindiau a’ch teulu yn gwybod i beidio galw 999,” meddai.

“Bydd adnoddau ambiwlans prin yn gallu cael eu targedu i’r ifanc a’r iach sydd â chyfle gwell.”

Mewn datganiad, dywed bwrdd iechyd Cwm Taf nad oeddynt wedi argymell cyngor o’r fath.

“Mae’r feddygfa yn gwybod hyn, ac maen nhw’n ymwybodol fod y llythyr wedi achosi pryder.”