Yn sgil y coronafeirws mae gwasanaeth newydd wedi ei lansio yn Aberystwyth er mwyn bod yn bwynt cyswllt rhwng busnesau lleol a’u cwsmeriaid.
Mae Ymaichi yn wefan newydd sydd yn rhestru cigyddion, poptai, prydau parod a chyflenwadau bwyd eraill ar un wefan ganolog ac yn dosbarthu’r cynnyrch i gwsmeriaid yn yr ardal.
Y dyn busnes lleol Aled Rees, sydd tu ôl i’r gwasanaeth newydd.
Eglurodd wrth golwg360 fod nifer o fusnesau yn wynebu heriau mawr oherwydd y coronafeirws, ac mai cydweithio yw’r ffordd orau i oresgyn rhai o’r sialensiau hyn.
Dywed Aled Rees, “y nod yw bydd pobol yn gallu archebu cynnyrch lleol ar lein o wefan ganolog, a bydd y gwasanaeth yn sicrhau fod yr economi leol yn dal i droi.
“Codir tâl bach am y gwasanaeth, felly byddem yn annog pawb i archebu mewn swmp – efallai unwaith yr wythnos.
“Yna bydd yr eitemau’n cael eu danfon ar y dosbarthiad nesaf sydd ar gael i’ch ardal chi.”
Mae’r dyn busnes sydd berchen cwmni teithio, siop lyfrau a bwyty yn y dref yn awyddus i leihau’r pwysau ar fusnesau, ac mae’n ddiolchgar fod ei staff wedi cytuno i roi help llaw gyda’r ochr weinyddol o redeg Ymaichi.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod busnesau yn cadw eu cwsmeriaid,” meddai.
“Gobeithio bydd y gwasanaeth yn rhywbeth a fydd yn ei gwneud hi ychydig yn haws i bobol aros gartref, neu o leiaf gael llai o gyswllt ag eraill.”
“Cefnogi gweithwyr y rheng flaen”
Bydd y cynllun yn dechrau yn Aberystwyth, a gobaith Aled Rees yw ymestyn y gwasanaeth i ardaloedd cyfagos dros yr wythnosau nesaf.
Ychwanegodd nad nod y gwasanaeth yw gwneud elw, ond yn hytrach mae’r gobaith yw cefnogi’r gymuned leol yn y cyfnod ansicr hwn.
“Byddwn ni’n gofalu am weinyddiaeth y gwasanaeth yn ogystal â chodi rhywfaint o arian ar gyfer y rhai sydd mewn angen a chefnogi gweithwyr y rheng flaen.”
Cymorth i drigolion bregus
Daw’r newyddion wrth i Gyngor Sir Ceredigion hefyd lansio porth Cymorth i gadw mewn cysylltiad â thrigolion bregus yn y sir.
Dywedodd llefarydd ar ran y sir, “Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu ein cymunedau yn erbyn COVID-19, ni fydd nifer o drigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth neu’r ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn fel arfer”
“Bydd ein staff yn cyfathrebu gydag oddeutu 2000 o drigolion, gan amrywio o bobl ifanc i deuluoedd i ofalwyr.