Bydd capel Amlosgfa Bangor a’r prif faes parcio yn cau am dair wythnos rhwng 5 a 24 Medi, ac mae ymgymerwyr angladdau yr ardal eisoes wedi cael eu rhybuddio i wneud trefniadau eraill dros y cyfnod.
Mae hyn am fod angen i Gyngor Gwynedd wneud “gwaith angenrheidiol” i gael gwared ag asbestos yn yr adeilad.
Mae Cyngor Gwynedd yn rhoi gwybod i drefnwyr angladdau ar hyn o bryd na fydd modd cynnal gwasanaethau yn y capel rhwng y cyfnod hwnnw ond bydd amlosgfeydd yn unig yn gallu digwydd.
Mae amlosgfeydd Bae Colwyn ac Aberystwyth wedi cael gwybod hefyd, gan y bydd yn debygol o gynyddu’r galw am fwy o angladdau yn eu safleoedd.
‘Dim dewis’ ond cau
“Mae Amlosgfa Bangor yn gweithio gyda threfnwyr angladdau i ddarparu gwasanaeth proffesiynol ar gyfer teuluoedd yn ystod cyfnod anodd,” meddai aelod o gabinet Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd John Wynn Jones.
“Mae’r cyfleuster wedi bod ar agor ers 1973, ac fel llawer o amlosgfeydd o’r oedran yma, mae angen gwaith atgyweirio er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn cadw at y gofynion priodol.
Mae maint y gwaith a’r angen i waredu asbestos yn golygu nad oes dewis arall ond cau’r amlosgfa dros dro, meddai.
“Mae trefnwyr angladdau yn cael eu hysbysu am yr opsiynau eraill sydd ar gael iddynt, a byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda nhw pan yn bosib er mwyn cwrdd ag anghenion teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.”
Bydd Gardd Goffa yn yr amlosgfa yn dal i fod ar agor ond bydd llai o fannau parcio o achos y gwaith.
Cofnod o adeiladau cyhoeddus ag asbestos
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud ei fod yn cadw cofnod o adeiladau cyhoeddus sydd ag asbestos ynddyn nhw.
“Nid yw deunyddiau o’r fath yn creu peryg i’r cyhoedd pan maen nhw’n cael eu cadw heb eu haflonyddu fel rhan o strwythur yr adeilad,” meddai datganiad gan Gyngor Gwynedd.
“Er hyn, pan fo angen gwneud gwaith ar adeilad sy’n cynnwys asbestos, mae contractwyr arbenigol yn cael eu comisiynu i waredu’r deunydd yn unol â chanllawiau cenedlaethol perthnasol.”