Owen Smith, AS Pontypridd
Mae arolwg ymgynghorol sydd wedi’i gynnal gan undeb GMB yn dangos bod y mwyafrif o’r aelodau’n cefnogi Owen Smith i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.

Y GMB yw un o’r undebau mwyaf sy’n gysylltiedig â’r blaid, ac fe gafodd oddeutu 600,000 o aelodau’r undeb eu holi fel rhan o’r arolwg.

Ond dim ond tua 30,000 sy’n gymwys i bleidleisio ar gyfer yr arweinydd newydd.

Mae’r GMB yn cynrychioli gweithwyr Trident.