Dilma Rousseff, arlywydd Brasil
Mae senedd Brasil wedi pleidleisio tros roi’r Arlywydd Dilma Rousseff ar brawf am dorri, yn honedig, reolau ariannol wrth ymdrin â chyllideb y wlad.

Fe bleidleisiodd yr aelodau o 59-21 heddiw – dyma’r cam ola’ cyn achos llys, a chyn y bydd yr arlywydd yn cael ei diswyddo yn ddiweddarach y mis hwn.

Mewn pleidlais ym mis Mai, fe fotiodd yr aelodau tros uchel-gyhuddo Dilma Rousseff, a thros ei gwahardd o’i gwaith am 180 niwrnod.

Yn y cyfamser, mae dirprwy Ms Rousseff, Michel Temer, yn gwneud y gwaith yn ei lle ac mae Dilma Rousseff yn dal i fynnu nad ydi hi wedi gwneud dim byd o’i le.