Mae Sage Todz yn galw am normaleiddio sgyrsiau am emosiynau dynion, gan ddweud y “gall fod yn anodd i ddynion agor i fyny”.

Daw sylwadau’r artist drill Cymraeg, sy’n enedigol o Essex ond sy’n byw yng Ngwynedd ac yn siarad Cymraeg ers 2007, wrth siarad â phlatfform Iawn am wrywdod, modelau rôl cadarnhaol a pherthnasoedd modern, a hynny’n rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru.

Fe fu Eretoda Ogunbanwo, sy’n defnyddio’r enw llwyfan Sage Todz, yn sgwrsio â Luke Davies mewn cyfweliad fideo ar gyfer y platfform cymunedol gafodd ei lansio y llynedd i annog dynion ifainc i gymryd cyfrifoldeb personol ar y cyd i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Bydd y fideo ar gael i’w gwylio’n fuan.

Normaleiddio – neu fod yn normal?

Er ei fod yn awyddus i gynnal sgyrsiau er mwyn normaleiddio trafodaethau ymhlith dynion am eu hemosiynau, dywed  bod mwy i’r ymgyrch na hynny.

“Wnes i ymwneud â’r ymgyrch oherwydd, yn lle dweud wrth bobol am normaleiddio pethau, mae’n well jest bod yn normal am bethau,” meddai Sage Todz.

“Os yw rhywun yn gweld person maen nhw’n edrych i fyny iddo yn siarad am bwnc, mae’n gallu grymuso neu eu galluogi nhw.”

Yn ystod y sgwrs, mae’r perfformiwr dwyieithog yn trafod yr heriau mae dynion ifainc yn eu hwynebu wrth fynegi eu hemosiynau.

Cafodd yntau ei ddylanwadu’n gryf gan ei dad, y gweinidog Olufemi Ogunbanwo, ond nid pawb sydd â modelau rôl cryf i droi atyn nhw.

“Mae gen i blueprints da,” meddai.

“Mae fy nhad yn enghraifft enfawr o fodel rôl gwrywaidd gwych, yn bendant.

“Disgyblaeth. Nerth ewyllys. Cryfder cymeriad. Gonestrwydd – bydd yn ddyn o dy air, paid llechian o amgylch pethau.

“Mae e wedi gosod y pethau hyn ynddo fi.

“Bydd yn rhywun y gall pobol eraill ddibynnu arno gymaint ag y gelli.”

‘Ffrindiau dibynadwy’

Ochr yn ochr â dylanwad ei dad, mae Sage Todz hefyd yn credu bod magu perthynas â grŵp o ffrindiau dibynadwy yn allweddol i allu siarad.

“Mae rhwystrau posibl i ddynion siarad, ond os oes gen ti grŵp o ffrindiau da ti’n gwybod y gelli ymddiried ynddyn nhw, mae’n cael gwared o’r rhwystrau hynny,” meddai.

“Mae’n bwysig cael grŵp o bobol y gelli fod yn agored gyda nhw, rhannu dy emosiynau, siarad am bynciau dyfnach a teimlo dy fod yn cael dy dderbyn o fewn hynna.

“Mae llawer o wybodaeth ar gael ac rydan ni’n fwy ‘deallusol’ [yn emosiynol] na chenedlaethau blaenorol am fod ganddon ni fynediad at lawer mwy o wybodaeth, ond mae hefyd am sut i ddefnyddio hynna.

“Gall fod yn anodd bod yn agored oherwydd fel dyn ifanc, dwi’n gweithio’n well gyda atebion yn hytrach na siarad.

“Os ydw i’n siarad am rywbeth, byddai’n well gen i gael ateb yn hytrach na siarad am sut dw i’n teimlo.

“Dw i’n meddwl bod llawer o ddynion ifanc yn teimlo fel’na, a does dim lle i fynd am ateb ymarferol bob amser.”

Ymdeimlad o gymuned a phwrpas

Mae Sage Todz yn credu bod angen ymdeimlad o gymuned a phwrpas ar ddynion ifanc i allu helpu i gyfeirio eu hemosiynau.

Mae mynd i’r gampfa a bwyta bwyd iach yn fecanwaith ymdopi pwysig ar gyfer ei iechyd meddwl ei hun, ond mae’n credu y dylai dynion roi cynnig ar ddulliau gwahanol a gweld beth sy’n gweithio iddyn nhw.

“Dw i’n meddwl bod llawer o ddynion ifanc eisiau ac angen pwrpas a theimlo fel rhan o gymuned,” meddai.

“Mae’n ymwneud gyda chyfeirio’r pwrpas yna ac agor i fyny i bobol ti’n teimlo’n ddiogel â nhw.

“Dw i wedi gweld clwb iechyd meddwl garddio i ddynion hŷn, a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn siarad llawer [am eu problemau], ond yn teimlo eu bod yn gosod eu problemau ar rywbeth.

“Rhai o’r ffyrdd gorau o ymdopi wrth fynd drwy amser anodd yw mynd i’r gym, cadw’n iach a bwyta’r bwyd iawn, siarad gyda ffrindiau a therapi.

“Dw i wedi gwneud sesiynau cwnsela, ac mae’n gallu helpu.

“Dw i ddim yn meddwl bod yna un dull sy’n addas i bawb, gelli di roi cynnig ar wahanol bethau i weld be sy’n gweithio i ti.”

Sengl newydd

Mae sengl ddiweddaraf Sage, ‘Gone Seen Blocked (GSB)’, yn ymwneud â pherthnasoedd yn yr oes fodern, a sut y gallan nhw gael eu taflu i ffwrdd yn hawdd.

“Mae’n trafod perthnasoedd yn yr oes fodern a sut gallan nhw fod yn eithaf disposable,” meddai.

Seen – neges yn cael ei gadael wedi ei darllen, yna blocked – mae gen ti’r opsiwn o flocio rhywun o dy fywyd yn llwyr.”

Mae hefyd yn archwilio’r syniad ei bod yn bwysig amgylchynu’ch hun gyda’r bobol iawn, a chychwyn trafodaethau am ymddygiadau priodol er mwyn lleihau ymddygiadau problematig tuag at fenywod.

“Dw i’n amgylchynu fy hun gyda phobol sy’n meddwl yr un fath, a dw i’n meddwl bod sgwrs ehangach i’w chael gyda ffrindiau os nad wyt ti’n cytuno gyda’u barn nhw.

“Dw i’n edrych i fyny at lawer o aelodau fy nheulu gan gynnwys fy nhad a fy ewythrod, maen nhw’n hogia Iawn.”

Iawn

Mae Iawn yn blatfform dwyieithog i ddynion ifanc sy’n dweud na wrth drais yn erbyn merched a menywod.

Ei unig nod yw gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.

Dyma’r platfform ar gyfer gwrywdod cadarnhaol yng Nghymru.

Mae’n grymuso dynion ifanc i hyrwyddo a dathlu gwrywdod cadarnhaol, i fod yn atebol i’w gilydd am eu gweithredoedd, cefnogi ei gilydd i ddod y fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain ac, yn ei dro, ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.