Gallai prawf newydd sy’n cael ei gyflwyno yng Nghymru helpu mwy o bobol i gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.
Bydd astudiaeth newydd yn gwerthuso manteision prawf gwaed ar gyfer biopsi hylif pan fo amheuaeth bod gan rywun ganser yr ysgyfaint.
Canser yr ysgyfaint yw’r pedwerydd mwyaf cyffredin yng Nghymru, a’r canser sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau.
Drwy gynyddu’r defnydd o fiopsi hylif anfewnwthiol (sampl gwaed) yn gynharach yn y llwybr canser, gellir gwneud penderfyniadau cyflymach am driniaethau wedi’u targedu, a darparu’r triniaethau hynny’n gynt hefyd.
Mae disgwyl i hyn wella canlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.
Lansio Strategaeth Diagnosteg Cymru
Mae profi’r defnydd o dechnolegau newydd megis biopsi hylif yn rhan o Strategaeth Ddiagnosteg Cymru sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 25).
Gall y defnydd newydd o’r prawf gwaed ganfod marcwyr canser lluosog heb fod angen biopsi meinwe mewnwthiol.
Bydd yn edrych ar sut y gall ei ddefnyddio’n gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis a lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth.
Bydd hefyd yn helpu i ddeall sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon pan fo amheuaeth bod gan rywun fathau eraill o ganser.
Mae disgwyl i’r defnydd o fiopsi hylif ym maes meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a rhoi dealltwriaeth well o salwch, gwella canlyniadau cleifion a thrawsnewid bywydau.
Yn y dyfodol, mae ganddo’r potensial i ddarparu ffordd syml, hwylus a dibynadwy o archwilio canser a amheuir a ffordd lai mewnwthiol o fonitro ar gyfer canser yn dychwelyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
‘Rhan o waith ehangach i adfer a thrawsnewid gwasanaethau’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran sut rydyn ni’n integreiddio profion genomig mewn gwasanaethau iechyd i chwyldroi gofal iechyd.
“Fe allai biopsi hylif roi manteision gwirioneddol i gleifion yng Nghymru ac achub bywydau drwy’n helpu ni i ganfod a thrin canser yn gynharach.
“Dyma enghraifft allweddol o sut all gweithio mewn partneriaeth ar draws sawl sector gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i adfer a thrawsnewid gwasanaethau drwy Strategaeth Ddiagnosteg Cymru.”
‘Cam mawr ymlaen i helpu cleifion canser’
Dywedodd Craig Maxwell, cynrychiolydd cleifion y grŵp llywio QuicDNA: “Cefais ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint EGFR nad oedd modd ei wella na’i drin drwy lawdriniaeth pan o’n i’n 40 oed.
“Mae gen i felly brofiad uniongyrchol o’r llwybr diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru.
“Mae Cymru mor ffodus o’i nyrsys a’i meddygon ardderchog sy’n ein cefnogi ar y llwybr hwn.
“Mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd i wneud yn siŵr bod y dechnoleg orau a diweddaraf ar gael iddyn nhw i gynnal y llwybr diagnostig.
“Mae’r astudiaeth glinigol hon yn gam mawr ymlaen i helpu cleifion canser, fel fi.
“Ar ôl i fy nhiwmor gael ei ddarganfod, cymerodd hi 72 o ddiwrnodau anodd, llawn straen, i wybod pa fath o ganser oedd gen i.
“Bydd y dechnoleg newydd hon yn helpu i roi canlyniadau’n gyflymach, gan alluogi cleifion canser i gael triniaeth yn gynharach a’u helpu i gynllunio, gyda’u teuluoedd, at y bywyd newydd sydd o’u blaenau.
“Rhaid inni sicrhau bod y profion arloesol newydd hyn ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac y gall ein nyrsys a’n meddygon ardderchog ddefnyddio’r dechnoleg hon i’w helpu nhw i’n helpu ni.”