Mae adolygiad i nodiadau cleifion yn y gogledd wedi canfod bod holl amgylchiadau pedair marwolaeth heb gael eu rhannu gyda’r crwner.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n codi cwestiwn ynglŷn â faint o farwolaethau eraill sydd heb gael eu cyfeirio’n iawn ar y crwner.
Mae’r marwolaethau wedi dod i’r amlwg yn dilyn cyhoeddi adolygiad diweddaraf Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i’w gwasanaeth fasgiwlar.
Cafodd gwasanaethau fasgiwlar bwrdd iechyd y gogledd eu had-drefnu ym mis Ebrill 2019, gan symud llawdriniaethau cymhleth o Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd.
Ers hynny, mae cleifion a gweithwyr wedi codi pryderon am y gwasanaeth yn Glan Clwyd, a chafodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon eu comisiynu i sgrifennu adroddiad ar y mater.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi mewn dau ran yn 2021 a 2022, ac ers hynny mae Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig y gwasanaethau fasgiwlar, yn cael ei goruchwylio’n agosach gan Lywodraeth Cymru.
Yr adroddiad
Wrth ymateb i’r adroddiad hwnnw, ffurfiodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr Banel Adolygu Ansawdd Fasgiwlar, i geisio gwella gofal a gwasanaethau.
Ond mae adroddiad y panel hwnnw, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (Ionawr 31), yn feirniadol o wasanaethau fasgiwlar ac yn gwneud 27 o argymhellion mewn wyth maes.
Mae’r argymhellion yn cynnwys gwella cyfathrebu gyda chleifion a theuluoedd, ac mae’n tynnu sylw at gleifion oedd wedi disgyn yn aml neu wedi datblygu briwiau wrth orwedd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth cyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd ymddiheuro i gleifion, ond mynnodd Dr Nick Lyons bod “nifer o’r problemau wedi eu hadnabod ac mae gwelliannau eisoes wedi dechrau”.
“Roedd pedair marwolaeth lle, wrth adolygu’r nodiadau, roeddwn i’n pryderu ein bod heb roi gwybod i’r Crwner am holl fanylion y pedair marwolaeth yna ar y pryd,” meddai wrth BBC Cymru.
“Rydyn ni wedi cysylltu â’r teuluoedd yna i godi’r pryder ac rwyf wedi rhoi gwybod i Grwner Ei Fawrhydi ei bod hi’n bosibl y bydd am ystyried rhai o’r amgylchiadau sydd yn gysylltiedig â’r marwolaethau rheiny.”
‘Pryderus’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymrig dros ogledd Cymru, Darren Millar: “Bydd nifer o bobol yng ngogledd Cymru’n bryderus wrth ddarllen yr adroddiad heddiw am wasanaethau fasgiwlar yn yr ardal, ac o ddysgu na chafodd y crwner yr holl wybodaeth am bedair marwolaeth ymhlith y 47 achos gafodd eu hadolygu.
“Mae’n codi’r cwestiwn, faint o farwolaethau eraill, yn y gwasanaeth fasgiwlar ac o fewn disgyblaethau clinigol eraill, sydd heb gael eu pasio ymlaen yn briodol i’r crwner eu hystyried?
“Mae’r darganfyddiadau ynglŷn â chadw cofnodion blêr am gleifion a methiannau i weithredu argymhellion adroddiadau beirniadol blaenorol yn bryderus, yn rhoi cleifion mewn perygl, ac yn awgrymu nad ydy Betsi yn dysgu o’i chamgymeriadau.”
‘Angen sicrwydd’
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, bod rhaid i’r bwrdd iechyd roi sicrwydd eu bod yn mynd i’r afael i’r argymhellion yn yr adroddiad.
“Ar y cyfan, mae canfyddiadau’r Panel Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd yn gyson â chanfyddiadau adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.
“Serch hynny, yng nghyd-destun rhai o’r achosion, roedd y Panel yn ymwybodol o wybodaeth bellach a nodwyd, ac roedd gwybodaeth leol yr aelodau yn golygu bod ganddynt fwy o gyd-destun.
“Rwy’n llwyr werthfawrogi union faint yr her i’r Bwrdd Iechyd wrth iddynt fynd i’r afael â’r materion hyn.
“Fodd bynnag, rhaid iddynt roi sicrwydd eu bod yn mynd i’r afael i’r argymhellion yn yr adroddiad hwn, a hynny ar fyrder, neu eu bod eisoes wedi mynd i’r afael â hwy.
“Rhaid i bobol yn y gogledd fod yn gwbl dawel eu meddwl fod y Bwrdd Iechyd wedi unioni’r materion a nodwyd, ac wedi gwella llwybrau a chanlyniadau.”