Mae’r Ffermwyr Ifanc yn dweud ei bod hi’n “dorcalonnus” na fydd Pentref Ieuenctid, sy’n cynnwys llety ac adloniant, yn rhan o’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni – a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Fodd bynnag, mae’r penderfyniad yn golygu bod gan y mudiad fwy o sicrwydd ariannol wrth i’r argyfwng costau byw gael “cryn effaith” arnyn nhw.
Daw’r penderfyniad ar ôl i’r aelodau benderfynu’n ddemocrataidd ar ôl sawl cyfarfod fod y risg ariannol yn sylweddol o ystyried faint o bobol sy’n mynychu.
Y llynedd, roedd yn rhaid i’r Pentref Ieuenctid gystadlu gydag adloniant, digwyddiadau a chystadlaethau mewn mannau eraill yn ystod wythnos y Sioe Fawr, gyda hyn yn arwain at bobol eisiau treulio amser mewn llefydd eraill.
Yn ei hanterth, roedd y Pentref Ieuenctid yn denu 4,500 o bobol ifanc bob blwyddyn, gydag Elin Fflur a Bryn Fôn ymhlith y rhai fu’n perfformio yno.
“Yn bersonol, mae’n dorcalonnus oherwydd rwyf i fel cyn-aelod wedi cael amser arbennig yn y Pentref Ieuenctid ac efo nifer fawr o atgofion da,” meddai’r Prif Weithredwr Mared Rand Jones wrth golwg360.
“Rydym wedi gwneud y penderfyniad nad yw’r Pentref Ieuenctid yno eleni.
“Gawn ni weld beth fydd y dyfodol, ar hyn o bryd, dyna’r peth doethaf i’w wneud.
“Mae’r costau wedi mynd yn aruthrol,” meddai Mared Rand Jones.
“Rydym wedi cwrdd sawl gwaith yn y misoedd diwethaf i edrych ar yr incwm a’r gwariant, a dydy e ddim yn talu ffordd i ni gynnal y Pentref Ieuenctid eleni. Mae o’n ormod o risg.
“Gwnaeth aelodau o CFfI Cymru i gyd gwrdd yn y Cyngor dydd Sadwrn diwethaf a gwneud y penderfyniad i beidio cynnal eleni oherwydd bod y costau allan o bob rheolaeth.
“Rwy’n edmygu’r bobol ifanc. Maen nhw wedi dadansoddi’r incwm a’r gwariant yn fanwl ac wedi gwneud y penderfyniad eu hunain fod o ddim y peth doethaf i’w wneud, er mwyn sicrhau bo ni ddim yn gwneud colledion a bod y mudiad yn mynd o nerth i nerth yn ariannol”.
Cystadlu
Yn rhan o hanes a diwylliant y Sioe Frenhinol, mae’r Pentref Ieuenctid wedi mynd yn llai poblogaidd gyda mwy o bethau eraill i’w mwynhau.
“Mae’r dref wedi mynd yn fwy poblogaidd felly mae yna fwy o gystadleuaeth yn digwydd yn ystod wythnos y sioe,” meddai Mared Rand Jones.
“Rydym yn gorfod cystadlu yn erbyn digwyddiadau eraill sydd yn digwydd.
“Efallai gwneith yr atyniadau yna dynnu ei blwc a bydd pawb eisiau mynd nôl eto.
Ond mae hi’n dweud bod hen ddigon o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill ar y gweill yn ystod y Sioe.
“Mae Canolfan y Ffermwyr Ifanc yn lle prysur iawn yn ystod wythnos y Sioe pan mae’r aelodau yn cynrychioli eu siroedd ac yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau megis canu, coginio, gosod blodau, dawnsio, barnu stoc, tynnu’r gelyn, cneifio, coedwigaeth a rygbi 7 bob ochr,” meddai wedyn.
Yr argyfwng costau byw a Covid
Mae’r argyfwng costau byw wedi cael cryn effaith ar y mudiad, ond dydy e ddim wedi cael effaith ar bobol yn ymaelodi â chlybiau ffermwyr ifanc sydd, yn ôl Mared Rand Jones, yn rhad ac efo buddion mawr.
Mae nifer yr aelodau ar gynnydd, er bod nifer wedi’u colli yn ystod cyfnod Covid.
“Mae bod yn aelod o Ffermwyr Ifanc ychydig o fargen o gymharu gyda gweithgareddau eraill,” ychwanega Mared Rand Jones.
“Mae’r cyfleoedd rydych yn eu cael o fod yn aelod o’r mudiad yn amhrisiadwy.
“Fel pawb, rydym wedi gweld costau’n cynyddu’n sylweddol ac rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn barod am unrhyw sialensiau a bod gyda ni ddigon wrth gefn a’n bod ni’n gallu goresgyn pob sialens.
“Y gwymp roedden ni’n ei gweld oedd yn ystod Covid ble doedd dim gweithgareddau wyneb i wyneb yn cael eu cynnal, dim ond pethau rhithiol.
“Mae yna gost gyda phob gweithgaredd a chystadleuaeth rydym yn eu trefnu, ac rydym wedi gweld y costau’n cynyddu’n sylweddol.
“Hefyd, rydym wedi gweld cynnydd wrth redeg ein swyddfa – megis cynnal a chadw, trydan a gwresogi.
“Mae rhaid i ni edrych fwy ar ffynonellau arian eraill er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i fynd o nerth i nerth.”