Mae elusen wedi bod yn creu bagiau ymolchi ar gyfer unrhyw un ym myd amaeth sy’n cyrraedd yr ysbyty heb fag ymolchi.

Hyd yn hyn, mae Ysbyty Alltwen ger Porthmadog a Bryn Beryl ger Pwllheli wedi cymeradwyo’r syniad a derbyn y bagiau ymolchi.

Gan ddefnyddio arian gafodd ei gyfrannu gan Jonathan Williams-Ellis, perchennog parc Glasfryn ger Y Ffor, Pwllheli, penderfynodd Tir Dewi gadw’r arian yn lleol a chyfrannu i’r gymuned.

Gwaith yr elusen ydy rhoi cefnogaeth i ffermwyr a’u teuluoedd, ac yn ôl Pennaeth Datblygu Tir Dewi yn y gogledd, mae’r bagiau ymolchi yn ffordd o godi ymwybyddiaeth am waith yr elusen gan eu bod nhw’n cynnwys eu logo a’u rhif ffôn.

“Roedden yn trafod beth fedrwn ni wneud efo’r arian, ac roedden ni eisiau cadw’r arian yn lleol yn ardal Pwllheli,” meddai Llinos Angharad Owen, y Pennaeth Datblygu yn y gogledd, wrth golwg360.

“Roedden ni’n siarad am yr holl bethau, banciau bwyd a phethau felly, ac roedden yn meddwl sut fysa hynny’n gweithio o ran ffermwyr.

“Doedden ni ddim yn meddwl bysa hynny’n ymarferol, felly fe wnaethon ni ddod fyny efo’r syniad bagiau ymolchi.

“Weithiau mae rhywun yn cyrraedd ysbyty a does ganddyn nhw ddim byd oherwydd nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n cael eu cadw mewn.

“Roedden ni’n meddwl ei fod yn ffordd wahanol o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”

Y gobaith ydy ehangu’r prosiect i gynnwys rhagor o ysbytai, meddai.

‘Prysur ofnadwy’

Mae’r elusen yn “brysur ofnadwy” ar hyn o bryd, wrth i ffermwyr baratoi at newid mewn deddfau a rheolau ac ymdopi â gwaith papur.

“Mae hyrwyddo gwaith Tir Dewi yn bwysig oherwydd bod Tir Dewi yna i gefnogi ffermwyr a’u teuluoedd efo unrhyw broblemau ac unrhyw heriau sy’n wynebu nhw’n eu bywydau,” ychwanega Llinos Angharad Owen.

“Mae’r elusen yna i gefnogi’r ffermwyr cyn i bethau fynd yn waeth.

“Nid elusen iechyd meddwl ydy Tir Dewi, ond elusen sy’n helpu efo bob dim.

“Weithiau mae rhywun yn mynd i’r ysbyty ac efallai eu bod nhw’n poeni am rywbeth, ffermwyr yn mynd i’r ysbyty ac maen nhw’n poeni am beth sy’n digwydd adref neu maen nhw’n poeni am sut maen nhw am gael cymorth ar ôl dod adref o’r ysbyty.

“Rydyn ni yna i helpu os ydyn nhw angen unrhyw gefnogaeth adref ar y ffarm, felly roedd o’n ffordd o godi ymwybyddiaeth mewn ffordd wahanol, a chreu partneriaethau efo’r ddau ysbyty a gwneud y ddau ysbyty’n fwy ymwybodol o waith yr elusen.

“Os maen nhw’n gweld a theimlo bod yna fwy o ffermwyr sydd angen cefnogaeth mae ganddyn nhw hefyd yr hawl, efo caniatâd yr unigolyn, i’w atgyfeirio atom ni, a’n bod ni’n gweithio efo’n gilydd.”

Mae’r elusen yn dibynnu ar wirfoddolwyr, a dylid unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gysylltu â Llinos Angharad Owen drwy e-bostio llinos@tirdewi.co.uk