Mae miloedd o bobol hŷn yng Nghymru yn byw mewn tai peryglus ac angen cymorth ar frys i gynnal eu diogelwch a’u hannibyniaeth, medd adroddiad newydd.
Yn ôl ymchwil gan elusen Care & Repair Cymru, mae miloedd o oedolion mewn perygl o fynd yn sâl yn sgil cyflwr eu tai.
Roedd dros 56,000 o bobol hŷn ar incwm isel angen cymorth brys a gwaith adnewyddu neu addasu ar eu tai y llynedd, ac mae disgwyl i’r nifer gynyddu yn 2023.
Un o’r achosion gwaethaf i Christine Beadsworth, gweithiwr achos yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gyda Care & Repair Cymru, eu gweld oedd cartref dynes 76 oed oedd wedi dioddef dwy strôc.
Roedd ffenestri cartref Barbara ger Pen-y-bont yn pydru, roedd tân nwy peryglus angen ei symud, ac roedd yr ystafell haul angen ei chwalu. Roedd cyflwr y drysau’n golygu bod eira’n dod mewn hefyd.
“Ar gyfartaledd, rydyn ni’n cael tua 30 referral yr wythnos, neu fwy, o’r ysbytai,” meddai Christine Beadsworth, sy’n gweithio i wasanaeth Hospital to Home yr elusen, wrth golwg360.
“Mae’n brysur iawn, weithiau fe gawn ni ddeg mewn un diwrnod.”
‘Calon yn suddo’
Pwrpas yr elusen ydy sicrhau bod pobol hŷn yng Nghymru â chartrefi cynnes, hygyrch a diogel, a bydd eu gweithwyr yn adnabod gwelliannau sydd angen eu gwneud mewn cartrefi ac yn dod o hyd i grantiau i dalu am waith adnewyddu.
Maen nhw hefyd yn gweithio â phobol hŷn i weld bod ganddyn nhw fynediad at y budd-daliadau a thaliadau cywir.
Yn ôl prif weithredwr yr elusen, mae eu gweithwyr yn gweld bod sefyllfa cartrefi ac iechyd eu cleientiaid yn gymhlethach nag erioed.
Wrth gyfeirio at achos Barbara, dywed Christine Beadsworth bod ei chalon hi wedi suddo wrth gerdded mewn i’r tŷ, a bod y ddynes 76 oed yn teimlo’r un fath hefyd.
“Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty gyda strôc a phroblemau anadlu, ac fe wnaeth hi ddal Covid yn yr ysbyty. Mae ei hysbryd hi reit isel, mae ei theulu hi’n byw i ffwrdd – maen nhw’n hyfryd, ond yn byw yn bell iawn i ffwrdd.
“Bob tro welais i hi roedd hi’n eistedd â blanced drosti, does yna ddim dryswch yno, ac mae hi’n trio cymryd gofal o’i materion ei hun, mae hi’n ddynes ddoeth iawn.
“Roedd hi’n eistedd yno ddim yn gwybod lle i ddechrau. Hwnnw oedd un o’r achosion mwyaf cymhleth fues i ato.
“Roedd y prif ddrysau cefn a blaen yn disgyn o’u lle, eira’n dod mewn.
“Roedd prif ffenestr yr ystafell fyw yn anferth, a dw i’n siŵr mai un paen o wydr oedd iddi, ac roedd hi’n poeni ei fod am ddisgyn allan ac y byddai ei hŵyr yn disgyn drwyddo, neu y byddai’n disgyn allan a phobol yn torri mewn, neu y byddai’n bosib i rywun ei dynnu o’r ffrâm a thorri mewn. Doedd e’n sicr ddim yn cadw’r oerfel allan.”
Gyda chymorth sawl gwahanol grant, mae gwaith wedi cael ei wneud i adnewyddu’r ffenestri, drysau a thynnu’r tân nwy.
“Mae hi’n teimlo’r oerfel mor ddrwg, a gyda’r strôc a’i chylchrediad gwaed mae hi angen bod yn gynnes.”
Effaith Covid
Fe wnaeth yr elusen weld cynnydd yn nifer y bobol ddaeth yn gaeth i’w cartrefi’n ystod Covid “yn bendant”, ychwanega Christine Beadsworth.
“Fe wnaethon ni weld cynnydd yn nifer y bobol sydd wedi mynd yn isel ac unig oherwydd Covid hefyd.
“Efallai bod eu teulu a’u ffrindiau wedi stopio mynd i’w gweld, neu hyd yn oed wedi marw, oherwydd Covid, ac weithiau mae pobol ofn mynd allan a dod i gysylltiad efo eraill.
“Efallai bod ganddyn nhw gyflyrau lle maen nhw’n fod agored i niwed, a’u bod nhw ddim eisiau risgio taro mewn i rywun â Covid.
“Mae’n bendant wedi cael effaith, hyd yn oed nawr, ar ffordd o fyw pobol.”
‘Cymhlethach nag erioed’
Mae Care & Repair Cymru eisiau gweld grant adnewyddu tai ar gyfer pobol hŷn sy’n berchen ar dai ac ar incwm isel, ac yn dweud y byddai hynny’n gwneud eu cartrefi’n saffach.
Yn ei dro, byddai’n arwain at wella iechyd a llesiant hefyd, gan ostwng derbyniadau i ysbytai ac ymweliadau at y meddyg a lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd, meddai’r elusen.
“Mae ein hadroddiad newydd yn dangos bod cartrefi pobol hŷn yng Nghymru wir angen buddsoddiad pellach,” meddai Chris Jones, Prif Weithredwr yr elusen.
“Mae’r argyfwng costau byw, pandemig byd-eang, a’r ansicrwydd gwleidyddol wedi creu storm berffaith sydd wedi arwain at ostyngiad yn safon cartrefi’r cenedlaethau hŷn.
“Ar hyn o bryd, mae ein gweithwyr yn gweld bod anghenion iechyd a thai ein cleientiaid yn gymhlethach nag erioed.
“Yn naturiol, mae hynny’n golygu bod y datrysiadau’n fwy cymhleth, ond gyda chostau deunyddiau’n cynyddu, llai o gontractwyr dibynadwy ar gael, a diffyg arian i gefnogi’r rhai ar incwm isel, mae trefnu gwaith trwsio’n her gynyddol.”