Mae undeb athrawon NAHT Cymru’n rhybuddio y gallai rhai ysgolion dorri’r gyfraith heb yn wybod iddyn nhw, wrth iddyn nhw geisio cosbi staff sy’n streicio.

Mae’r undeb yn poeni y gallai rhai awdurdodau lleol wneud camgymeriad a chosbi staff sy’n dewis peidio streicio, wrth iddyn nhw brosesu cyflogau.

Bydd NAHT Cymru ymhlith yr undebau sy’n cymryd rhan mewn Diwrnod o Weithredu ddydd Mercher (Chwefror 1) ac ymhlith y camau fydd yn cael eu cymryd fel rhan o’r diwrnod mae peidio rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol ynghylch pa staff sy’n streicio.

Mae’r undeb wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol eu bod nhw’n bwriadu cynnal y diwrnod, ond mae staff yn cael eu rhybuddio eu bod nhw’n wynebu colli cyflog.

‘Dull hollol amatur’

“Mae hyn yn dangos dull hollol amatur yr awdurdodau lleol sydd wrth galon yr anghydfod addysg,” meddai Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol NAHT.

“Nid yn unig mae unrhyw gynnig i ostwng cyflogau’n anghyfreithlon pobol sy’n gweithio’n galed oherwydd dydyn nhw’n syml iawn ddim yn gwybod sut i ymdrin ag undebau llafur yn bositif yn anghyfreithlon, ond mae hefyd yn ddiofal.”

Dywed ei fod yn hyderus y bydd yr holl undebau’n dwyn achos yn erbyn yr awdurdodau lleol trwy’r llysoedd er mwyn adenill cyflogau staff, gan arwain at wastraff arian, amser ac ymdrech o ganlyniad i anallu Llywodraeth Leol.

Fe ddaeth i’r amlwg fod disgwyl i unrhyw un sy’n sâl ar ddiwrnod streic ymweld â meddyg a chael tystysgrif salwch, sydd yn groes i bolisïau salwch.

“Alla i ddim credu bod awdurdodau lleol mor ddespret i danseilio gweithredu diwydiannol dilys fel eu bod nhw’n targedu rhai sâl ac yn gosod baich nad oes modd ei oddef ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

‘Ymgais i danseilio ein gweithgarwch cyfreithlon, dilys’

Yn ôl Laura Doel, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, mae’r rhybudd i weithwyr ac undebau’n “ymgais i danseilio” eu “gweithgarwch cyfreithlon, dilys”.

“Mae cyngor sydd wedi’i roi gan rai awdurdodau lleol yn mynd yn uniongyrchol groes i’n gweithgarwch ac yn cael ei ddefnyddio mewn rhai achosion i fygwth ein haelodau,” meddai.

“Fel undeb, rydym wedi neidio trwy gylchoedd deddfwriaeth wrth-undebau llafur Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi gwarchodaeth i’n haelodau weithredu.

“Mae ein gweithgarwch yn ceisio rhwystro’r system addysg tra’n gwarchod y dysgwyr a pharhau i ddarparu addysg i blant a phobol ifanc.

“Yn ôl ei ddiffiniad, bydd ein gweithgarwch yn ceisio rhwystro’r system weinyddol, ond dyna natur gweithredu’n ddiwydiannol.

“Mae’n warthus gweld gweinyddiaethau sy’n ymfalchïo mewn cefnogi hawl gweithwyr i weithredu’n ddiwydiannol yn ymateb yn y ffordd yma.

“Mae rhai gweithredoedd yn mynd yn groes i’r union egwyddorion a’r gwreiddiau undebau llafur y cafodd y swyddogion a’r aelodau etholedig hynny eu rhoi yn eu lle i’w cynnal a’u gwarchod.”

 

Bil Streiciau: “Mae’r Ceidwadwyr yn benderfynol o wneud cymaint o ddifrod cyn cael eu cicio allan”

Peredur Owen Griffiths yn ymateb ar ôl i welliant Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, gael ei wrthod