Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr yn San Steffan o fod yn “benderfynol o wneud cymaint o ddifrod cyn cael eu cicio allan”.

Daw sylwadau Peredur Owen Griffiths wrth iddo ymateb ar ôl i welliant i’r Bil Streiciau gael ei wrthod.

Byddai gwelliant Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, wedi eithrio Cymru rhag bod yn rhan o’r Bil, gan alluogi gweithwyr i beidio gweithio yn ystod streiciau heb wynebu’r perygl o golli eu swyddi.

Mae’n golygu y bydd Cymru o hyd yn rhan o’r Bil sy’n galluogi Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i osod isafswm lefelau gwasanaeth ym meysydd iechyd, tân, addysg, trafnidiaeth, datgomisiynu niwclear a gwasnaethau diogelwch ffiniau – hynny yw, faint o weithwyr sydd wrth eu gwaith ar unrhyw adeg yn y meysydd hynny.

Fe fu Llafur a Phlaid Cymru’n cydweithio er mwyn sicrhau trwy welliant na fyddai’r Bil yn berthnasol i Gymru.

“Neithiwr, amlinellais y gwrthwynebiad sydd i’r Bil Streiciau yng Nghymru,” meddai Beth Winter mewn datganiad ar Twitter.

“Bydd y Bil yn gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri i lawr ar ymgyrchoedd am gyflogau gwell, gan gynnwys diswyddo gweithwyr allweddol.

“Pleidleisiais yn ei erbyn, ond fe gyrhaeddodd y cam nesaf.”

Mewn neges flaenorol, eglurodd ei bod hi “wedi cyflwyno nifer o welliannau i’r Bil Streiciau heddiw fyddai’n ei atal rhag bod yn berthnasol i Gymru”.

“Ni fu ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ar hyn, ac mae’n gwrthdaro â’u dull Partneriaeth Gymdeithasol,” meddai.

“Mae angen taflu’r Bil cyfan allan.”

Diwrnod Gwarchod yr Hawl i Streicio

Ddydd Mercher (Chwefror 1), bydd Cyngres Undebau Llafur y TUC yn cynnal ‘Diwrnod Gwarchod yr Hawl i Streicio’.

Bydd ralïau’n cael eu cynnal ger swyddfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd, a hefyd yn Abertawe, Aberystwyth, Machynlleth a Bae Colwyn.

Pwrpas y diwrnod yw gwarchod yr hawl i streicio a gofalu am wasanaethau cyhoeddus, gan dynnu sylw at ymdrechion y Ceidwadwyr i ddileu’r “hawl ddemocrataidd” i streicio.

Peredur Owen Griffiths AS/MS @PeredurPlaidAS·14h Nid yn unig mae’r mesur ‘gwrth-streic’ y Torïaid yn sarhad ar hawliau gweithwyr, ond mae hefyd yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru. Mae’r Torïaid yn benderfynol o wneud cymaint o ddifrod cyn cael eu cicio allan. Bydd @Plaid_Cymru yn eu gwrthwynebu bob tro.

Bydd nifer o undebau, gan gynnwys athrawon (NEU), gweision sifil (PCS), darlithwyr prifysgolion a cholegau (UCU) a gyrwyr trenau (ASLEF ac RMT) yn streicio ddydd Mercher er mwyn pwyso ar weinidogion a chyflogwyr i geisio datrysiadau i’r anghydfodau sydd ar y gweill.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, eu blaenoriaeth wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth yw “cadw’r cyhoedd yn ddiogel” a gwarchod “bywoliaethau”.

‘Sarhad’

“Nid yn unig mae mesur ‘gwrth-streic’ y Torïaid yn sarhad ar hawliau gweithwyr, ond mae hefyd yn ymosodiad ar ddatganoli yng Nghymru,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae’r Torïaid yn benderfynol o wneud cymaint o ddifrod cyn cael eu cicio allan.

“Bydd @Plaid_Cymruyn eu gwrthwynebu bob tro.”