Mae ymgyrchwyr wedi ailadrodd galwadau i beidio cau tair o ysgolion cynradd yng Nghwm Tawe, ac agor un ysgol fawr yn eu lle.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot nos Lun (Ionawr 30), ac yn ôl Aelod o’r Senedd yr ardal roedd “gwrthwynebiad llethol” i’r cynlluniau.

Dan y cynllun, byddai ysgolion cynradd yr Alltwen, Llangiwg a Godre’r-graig yn cau, ac un ysgol fawr cyfrwng Saesneg yn cael ei hadeiladu ym Mhontardawe ar gyfer disgyblion tair i 11 oed.

Mae ymgyrchwyr lleol wedi dadlau ers tro bod y cynlluniau’n anaddas ac y byddan nhw’n cael effaith negyddol ar y Gymraeg, ar addysg ac ar fywyd cymunedol yng Nghwm Tawe.

“Roedd yn amlwg o’r nifer enfawr o bryderon a godwyd yn y cyfarfod bod gwrthwynebiad llethol i’r cynlluniau hyn yn lleol,” meddai Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.

“Dylai’r Cyngor wrthod y cynlluniau’n llwyr ac, yn hytrach, edrych ar opsiynau amgen i ddarparu adeiladau newydd neu wedi’u huwchraddio ar gyfer yr ysgolion hyn, gan weithio gyda – yn hytrach nag yn erbyn – rhieni, llywodraethwyr a thrigolion lleol.

“Etifeddodd Clymblaid Enfys newydd y Cyngor y sefyllfa hon gan y weinyddiaeth Lafur flaenorol, ac mae’r glymblaid newydd yn haeddu clod am ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd, yn wahanol i’r weinyddiaeth Lafur flaenorol.

“Ond roedd yr atebion a roddwyd gan swyddogion yn y cyfarfod yn amwys – er enghraifft, ynghylch y costau ychwanegol y byddai’r cynlluniau yn eu creu, megis cludiant ysgol ychwanegol a gwaith priffyrdd i wneud lle i’r ysgol newydd.

“Mae hwn yn gynllun amhriodol a di-feddwl a byddwn yn annog trigolion lleol i leisio’u barn drwy lenwi’r ymgynghoriad newydd i wrthwynebu’r cynlluniau i gau ysgolion Cwm Tawe.”

Y sefyllfa

Cafodd y cynigion eu pasio’n wreiddiol gan Gyngor blaenorol Castell-nedd Port Talbot blaenorol, oedd yn cael ei reoli gan Lafur.

O’r 234 ymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol, dim ond 21 oedd o blaid y cynlluniau, ac fe lofnododd 413 o bobol ddeiseb ar-lein yn erbyn y cynigion.

Ymrwymodd y Glymblaid Enfys newydd i atal y cynigion pan gymerodd drosodd arweinyddiaeth y Cyngor yn 2022 i sicrhau y byddai llais y gymuned yn cael ei glywed.

Cafodd penderfyniad blaenorol Cabinet Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot i fwrw ymlaen â’r cynllun ei herio gan Adolygiad Barnwrol, ddaeth i’r casgliad fod yr ymgynghoriad blaenorol yn anghyfreithlon.

Wrth siarad yn ystod y cyfarfod cyhoeddus, cyfeiriodd Sioned Williams yn benodol at y modd y byddai’r cynlluniau’n effeithio’n negyddol ar hygyrchedd darpariaeth feithrin, yn ogystal â’r gallu i gerdded neu seiclo i’r ysgol ac i weithgareddau cyn ac ar ôl ysgol.

Cododd nifer o rieni bryderon ynghylch maint yr ysgol arfaethedig newydd, a gofynnodd aelodau o’r gymuned sut y byddai adeiladu ar gaeau chwarae a chyfrannu at lefelau uchel o dagfeydd traffig a llygredd aer oedd eisoes yn uchel yn cyd-fynd ag amcanion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Chwefror 7.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.